Prosiectau gorffennol - 2024
Yn 2024 gwelwyd People Speak Up yn ehangu ar draws Sir Gâr, gan gynyddu’r prosiectau i leisiau sydd heb ddigon o gynrychiolaeth yn ei gymuned a sefydlu ail ganolfan newydd yng Nghanolfan Byw’n Dda Sir Gâr.
Sparky Samba
Gan weithio gyda Parkinson’s UK a Parkinson’s Cymru, cynhaliodd Sparky Samba sesiwn flasu am ddim i bobl hŷn a’r rhai sy’n byw gyda Parkinson’s.
Criw o bobl sy’n byw gyda Parkinson’s sy’n chwarae offerynnau Samba yw Sparky Samba. Gall Samba helpu gydag iechyd corfforol a meddwl gyda llawer o hwyl a chwerthin yn rhan ohono hefyd. Fe wnaethom weld dros 50 o bobl yn cymryd rhan yn y Samba yn Ffwrnes Fach.
Diwrnod Rhyngwladol Plant
Bob Mehefin, mae PSU yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Plant yn ei Hwb Celfyddyd, Iechyd a Llesiant. Mewn partneriaeth gyda Rhwydwaith Amlddiwylliannol Llanelli, Cyngor Tref Llanelli a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda rydym yn cynnal digwyddiad am ddim gyda storïau, cerddoriaeth a gweithgareddau teulu am ddim.
Sesiynau Dadlwytho Creadigol i Ofalwyr
Yng ngwanwyn 2024, fe wnaethom lansio ein sesiynau Dadlwytho Creadigol i Ofalwyr yn People Speak Up, Llanelli.
Fe wnaethom greu lle misol i ofalwyr ddod at ei gilydd, creu a chysylltu gyda gofalwyr eraill a rhannu baich mewn lle anfeirniadol, tra gallai’r rhai sy’n cael gofal ddod gyda nhw ond cymryd rhan mewn gweithgareddau eraill yn ein hystafell dan oruchwyliaeth gyda’n hwylusydd creadigol wedi ei hyfforddi.
Cefnogwyd y prosiect hwn gan PAVS, Llywodraeth Cymru a Phartneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru.
Gardd Gymunedol
Symudodd y planwyr planhigion i mewn yn Ebrill 2024 a dechreuodd ein gardd dyfu.
Diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri, derbyniodd People Speak Up gyllid i sefydlu gardd gymunedol yn People Speak Up, Heol y Parc, yng nghanol tref Llanelli.
Daeth yn hafan i bobl o bob oed, cefndir a phrofiad o fywyd i’w mwynhau, boed yn arddwyr newydd neu yn arddwyr profiadol sydd am faeddu eu dwylo neu bobl sy’n chwilio am le heddychlon i ymlacio, ysgrifennu, tynnu llun a chefnogi eu hiechyd meddwl a’u llesiant.
Ers i’r Ardd Gymunedol gael ei chreu mae gennym Swyddog Gwirfoddolwyr a Gardd Gymunedol newydd, Cerys, ac rydym wedi sefydlu Clwb Garddio bob pythefnos.
Prosiect Canolfan Plant Morfa
Comisiynwyd People Speak Up gan Ganolfan Plant Integredig, Morfa, Llanelli i weithio gyda’r plant i archwilio perthnasau cadarnhaol, deall hawliau a chyfrifoldebau, canlyniadau gweithredoedd a theimlo eu bod wedi eu grymuso i ddod o hyd i’w llais eu hunain yn eu cymuned. Yng nghanol cymuned Morfa, am 14 wythnos, defnyddiodd ein tîm o weithwyr creadigol amrywiol ffurfiau celfyddydol i greu lle i archwilio hunaniaeth, cymuned a llais.
Trawsnewidiodd Mared Davies, y cerflunydd lleol, fetel i fod yn deyrnged i wytnwch a chysylltiad. Creodd y plant ddwylo – pob un yn symbol o’u hawliau ac yn llusern dros bositifrwydd. Mae’r dwylo yma, sydd wedi eu haddurno â geiriau gobaith, yn ffurfio dail coeden – Coeden Doethineb.
Saif y Goeden Ddoethineb hon fel symbol grymus o’u dyfodol, eu gobeithion a’u breuddwydion. Mae’n cynrychioli adfywio, twf ac ysbryd di-ildio ein cymuned. Gyda’n gilydd rydym yn meithrin y breuddwydion hyn, gan greu dyfodol disgleiriach i bawb.
Canolfan Glyd Greadigol
Diolch i gyllid gan Gyngor Sir Caerfyrddin fe wnaethom lwyddo i gynnal Canolfannau Clyd Creadigol yn PSU Llanelli a Chanolfan Byw’n Dda Sir Gâr. Fe wnaethom lwyddo i greu lle ac amser i bobl alw heibio ein sesiynau yn ystod y misoedd oer i gadw’n gynnes, cyfarfod eraill a chysylltu a chreu.
Prosiect Murlun Celfyddydol gyda Pen y Bryn, Llanelli
Gan weithio gyda chymuned Sipsiwn a Theithwyr Pen y Bryn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, fe wnaethom weithio gyda phobl ifanc yn y gymuned ar gasglu storïau i greu murlun ar gyfer caban y safle ac i greu amser i leisiau gael eu clywed.
Cynllun ar y cyd gydag artistiaid Fresh Creative.
Unity – Tachwedd 2024
Ar ddydd Sadwrn 2 Tachwedd, cynhaliodd Llanelli Unites a People Speak Up eu digwyddiad Unity cyntaf, i ddathlu a dod â diwylliannau, ieithoedd a storïau at ei gilydd gan gymunedau amrywiol Llanelli a Sir Gâr.
Gwahoddodd y digwyddiad a gynhaliwyd yn People Speak Up, Heol y Parc, Llanelli, Fardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa a’r cerddor Parisa Fouladi i berfformio.
Yn dilyn y digwyddiad dywedodd Hanan Issa, “Wedi cael amser gwych yn perfformio yn Llanelli heddiw yn People Speak Up. Roedd yn teimlo’n bwysig ar ôl y tensiynau yr ydym wedi eu gweld yma. Gadael gyda dim ond diolchgarwch am le hyfryd sy’n gwneud gwaith pwysig i gefnogi cymunedau o ffoaduriaid yn lleol.”
Roedd barddoniaeth hefyd a rhannu gair ar lafar gan y Gymdeithas Gohebyddion ac Awduron Pwylaidd yng Nghymru, sydd hefyd yn cyfarfod yn PSU bob wythnos.
“Roedd cyflwyno barddoniaeth Pwyleg mewn digwyddiad amlddiwylliannol yn brofiad anhygoel. Roeddem yn ymwybodol nad oedd y gynulleidfa yn siarad Pwyleg, ond roedd yn rhyfeddol gweld cymaint o ddiddordeb oedd gan y rhan fwyaf o’r gwrandawyr yn sain yr iaith Bwyleg. Ar ôl ein perfformiad, daeth nifer o’r rhai oedd yn bresennol atom, yn awyddus i drafod y farddoniaeth a dysgu mwy amdani. Roedd yn anrhydedd mawr perfformio ochr yn ochr â beirdd a cherddorion mor dalentog. Rwy’n ddiolchgar bod Cymdeithas Gohebwyr ac Awduron Pwylaidd yng Nghymru Dialog sydd yn cydweithredu gyda People Speak Up, yn rhan o’r digwyddiad hwn,” meddai Paulina Czubatka, prif olygydd y flodeugerdd o farddoniaeth Bwyleg yng Nghymru “Whisper in the Rain” ac ysgrifennydd y Gymdeithas Gohebyddion ac Awduron Pwylaidd yng Nghymru Dialog.
Mae Unity yn awr yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir yn PSU Llanelli bob mis Tachwedd.
Canolfan Byw’n Dda Sir Gâr
Yn Rhagfyr 2024 fe wahoddwyd ni i arwain ar weithgareddau celfyddydol ac iechyd yng Nghanolfan Byw’n Dda Sir Gâr – siop un stop ar gyfer gwasanaethau ataliol dan arweiniad Planed. Ein hail gartref i ddarparu gweithgareddau yn y gymuned.
Mae Canolfan Byw’n Dda Sir Gâr ym Mharc Dewi Sant yn cynnig amrywiaeth o ofal iechyd sylfaenol, trydydd sector a gwasanaethau cymorth yn amrywio o iechyd meddwl, dementia a chymorth i ofalwyr i wybodaeth a chyngor, dosbarthiadau addysg, celfyddydau ac ymarfer corff, ymhlith gweithgareddau eraill, ond gan ddarparu dull cydlyn a diwnïad i gleientiaid ac ymwelwyr sy’n grymuso’r unigolyn.
Wedi ei drefnu gan Planed, mae datblygiad y Ganolfan Byw’n Dda wedi codi o ymateb i alw gan y cyhoedd am well cydlynu ar wasanaethau a pharodrwydd gan lawer o bartneriaid i rannu adnoddau a bod ar yr un lleoliad yng Nghaerfyrddin.
Fe wnaethom lansio gyda Ph’nawn Arty, Stori, Gofal a Rhannu ac Amser Dishgled...ac mae ein rhaglen galw heibio yn parhau i dyfu...