Prosiectau gorffennol - 2023
Llwybrau Gwrth-hiliaeth
Yn dilyn ein gwaith ar y cyd â Gŵyl Chwedleua Beyond the Border, fe wnaethom gyflwyno’r Llwybrau Chwedleua Gwrth-hiliaeth yn ein cymuned.
Arweiniwyd y tîm Llwybrau Chwedleua Gwrth-hiliaeth gan Bevin Magama, Duke Al Durham, Phil Okwedy, Ayisha De Lanerolle a Jafar Iqbal – rhaglen ddwy flynedd a wnaeth sicrhau bod chwedlau a lleisiau nad oeddynt wedi eu clywed o bob rhan o Gymru yn cael eu cynrychioli ac ymwreiddio ymarfer chwedleua gwrth-hiliaeth ar draws Cymru.
Derbyniodd y prosiect hwn gyllid o Gronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Gwrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru.
Cwlwm Creu ar Bresgripsiwn
Gwasanaeth Celf ac Iechyd a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’i gefnogi gan Gyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Prosiect celf ac iechyd i weld sut y gall cyfeillgarwch creadigol leihau unigrwydd ac ynysu a gwella iechyd meddwl a llesiant i bobol hŷn sy’n byw yn Sir Gâr.
Digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol Plant
Bob Mehefin, mae PSU yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Plant yn ei Hwb Celfyddydau, Iechyd a Llesiant. Mewn partneriaeth gyda Rhwydwaith Amlddiwylliannol Llanelli, Cyngor Tref Llanelli a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda rydym yn cynnal digwyddiad am ddim gyda storïau, cerddoriaeth a gweithgareddau teulu am ddim.
Diwrnod Hwyl Cymunedol
Cynhaliodd a threfnodd PSU ddiwrnod hwyl cymunedol i deuluoedd a phobl ifanc yn Danybanc ym mis Gorffennaf.
Gŵyl Chwedleua Beyond the Border 2023
Am yr ail flwyddyn yn olynol, roedd gan People Speak Up gae yn yr ŵyl chwedleua yn Llandeilo. Fe wnaethom greu rhaglen o storïau gan artistiaid gwadd yn ogystal â chreu llwyfan i’n cyfranogwyr a’r rhai oedd yn mynychu’r ŵyl i rannu storïau a cherddoriaeth gan Pod Siarad.
Clywch Ni
Roedd Clywch Ni yn brosiect dan arweiniad y byddar gan Jonny Cotsen mewn partneriaeth â Chanolfan Gelfyddydau Chapter. Roedd yn archwilio safbwyntiau pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw yn gweithio yn y celfyddydau, a sut y maent yn gallu cael mynediad a chymorth i gynhyrchu’n greadigol. Nod y rhaglen oedd ail-ddychmygu’r perthnasau yn y sector celfyddydau, gan roi pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw yn ganolog i gynhyrchu diwylliannol.
Ym Medi 2022, bu’r Mentor Creadigol Byddar, Cheryl Beer, yn gweithio gyda naw person Byddar creadigol o bob rhan o Gymru gan gofnodi straeon eu bywydau, cynnal sgyrsiau, a deall sut mae Byddardod wedi effeithio ar eu gyrfaoedd ym myd y celfyddydau. Bu hefyd yn archwilio dyheadau creadigol artistiaid Byddar a’u gobeithion am ddyfodol mwy teg.
“Roedd yn brofiad emosiynol cael clywed straeon bywydau pobl greadigol Fyddar eraill, yr heriau maen nhw wedi’u goresgyn, y ffyrdd mae’r celfyddydau a chreadigrwydd wedi, mewn llawer o ffyrdd, bod yn achubiaeth, ond yn bennaf, fe ges i fy ysbrydoli gan y cyfraniadau anhygoel mae pobl greadigol Fyddar yn eu gwneud, nid yn unig i gymuned y celfyddydau, ond er budd pawb”.
Y Mentor Creadigol Byddar, Cheryl Beer
Ariennir y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Connect + Flourish dan arweiniad Canolfan Gelfyddydau Chapter.
Sgwrs am Fuddsoddiad Cymdeithasol Caerfyrddin
Gan weithio gyda LocalMotion Caerfyrddin fe wnaethom redeg sesiynau yng Nghaerfyrddin i gofnodi sgyrsiau am Fuddsoddiad Cymdeithasol. Roeddem am gael gwybod sut y gallwn fuddsoddi yn ein cymuned, a grymuso trwy ffynnu a llwyddo. Cynhaliwyd sgyrsiau yn Yr Atom yng Nghaerfyrddin yn Awst 2023.
Chwarae Stryd mis Hydref a Digwyddiad Hydref Tyisha
Cynhaliwyd gweithgareddau teulu am ddim Chwarae stryd ar draws y sir, gan roi adloniant i blant a theuluoedd a’u cadw oddi wrth y sgriniau yn ystod gwyliau hanner tymor yr hydref.
Unwaith y flwyddyn rydym yn ymuno â’r tîm Trawsnewid Tyisha i helpu i ddarparu’r digwyddiad i deuluoedd yn yr hydref. Rydym yn mynd â’n rhaglen Chwarae Stryd i Tyisha i wneud gweithgareddau Calan Gaeaf a chrefft.
Diwrnod Rhyngwladol Menywod 2023
Cynhaliwyd ein Diwrnod Rhyngwladol Menywod ym mis Mawrth gan gynnal digwyddiadau a gweithgareddau am ddim yn PSU gyda phwyslais ar iechyd a llesiant menywod.
Cefnogwyd y digwyddiad gan Gyngor Tref Llanelli, DPA Law, SNAP Fitness a Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Llais
Yng ngwanwyn 2023 cawsom ein cefnogi gan Tŷ Cerdd i weithio gyda’n cymuned o bobl ifanc 11-18 oed. Yn ystod sawl wythnos dysgodd y bobl ifanc am gynhyrchu cerddoriaeth a chymryd rhan mewn gweithdai gair ar lafar / rap.
Roeddent yn gweithio gyda’r hwyluswyr, Rich Thair (Cynhyrchydd Cerddoriaeth, Drymiwr, DJ) a Duke AI (Bardd, Artist Gair ar Lafar, Rapiwr) i gynhyrchu eu traciau eu hunain gyda’u lleisiau ac offerynnau. Cliciwch ar y dolenni a gwrando ar y creadigaethau gan ein pobl ifanc.
Prosiect a ariannwyd gan gronfeydd Loteri Tŷ Cerdd, Canolfan Cerdd Cymru