Prosiectau gorffennol - 2022
Storïau ar Bresgripsiwn
Roedd Storïau ar Bresgripsiwn yn brosiect treialu 6 mis yn archwilio’r ffyrdd y mae gweithdai chwedleua yn gwella iechyd meddwl y cyfranogwyr yn ein cymuned. Darllenwch am yr effaith a gafodd y prosiect hwn ar ein cyfranogwyr a’n cymuned yn yr adroddiad llawn:
Hwb Celf
Gan weithio gyda CHAMS, roedd Hwb Celf yn cefnogi pobl ifanc oedd wedi cael eu cyfeirio atom ni yn PSU i ddefnyddio creadigrwydd i helpu i gefnogi iechyd a llesiant.
Cefnogodd yr hwyluswyr Bill Taylor-Beales a Ffion Weston bobl ifanc 13-17 oed i gofnodi eu lleisiau a’u teimladau trwy gadw dyddiaduron, animeiddio a chelfyddyd.
Hwyl yr Haf
Yn ystod haf 2022 fe wnaethom redeg gweithdai addas i deuluoedd am ddim ar draws Llanelli mewn partneriaeth â Chyngor Tref Llanelli, Cyngor Sir Caerfyrddin a Chwarae Stryd. Fe wnaethom fynd â sgwteri, deunydd celf a chrefft, pêl-droed, badminton, chwarae agored, beiciau cydbwysedd, hwyl sialc, sgwrsio a llwyth o chwedleua gyda ni.
Llais Tyisha
Ar 16 Awst fe wnaethom wahodd ein cymuned ward Tyisha i ddod i’r Pod Siarad i wrando ar ein cymuned. Fe wnaethom annog sgyrsiau a gwrando ar leisiau a barn y bobl am yr hyn y mae arnynt ei eisiau o’u cymuned. Fe wnaethom hefyd fynd â gweithgareddau awyr agored i deuluoedd gan ddod â’r gymuned at ei gilydd i gofnodi a chwyddo eu lleisiau.
Gwyl Cymru
Fel rhan o raglen ddiwylliannol Cymdeithas Pêl-droed Cymru yn 2022 fe wnaethom greu gofod i bontio cenedlaethau i gymuned pêl-droed Llanelli rannu storïau o 1958 ac ysgrifennu stori newydd ar gyfer 2022.
Gan weithio gyda chwedleuwyr, awduron a beirdd angerddol a phroffesiynol yn Gymraeg a Saesneg i greu undod trwy chwaraeon a’r celfyddydau.
Prosiect a gyllidwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru - Gŵyl Cymru
Cwtch Cynnes Creadigol
Gyda chefnogaeth Local Giving a’r Grid Cenedlaethol fe wnaethom redeg ein Cwtch Cynnes Creadigol cyntaf, amser a lle i gefnogi oedolion bregus sydd angen cymorth cymdeithasol ac ariannol. Anelwyd y sesiynau ar gyfer y rhai sy’n byw ar eu pennau eu hunain ac am ailgysylltu, yn ogystal â chefnogi pobl leol yn ein cymuned sy’n cael trafferth gyda chostau gwresogi yn ystod misoedd y gaeaf.