Prosiectau gorffennol - 2021
Fel y gallwn gofio, parhaodd y cyfnod clo yng Nghymru yn gynnar yn 2021, ac er bod pethau’n gwella nid oedd llawer o’n cyfranogwyr yn gallu dychwelyd i weithgareddau yn y cnawd. Fe wnaethom barhau i gefnogi ein cymuned gyda gweithgareddau ar-lein yn ogystal â dychwelyd yn ôl at ddigwyddiadau byw.
Young People Speak Up – Storïau Sgwâr
Yn ystod y cyfnod clo daeth aelodau Young People Speak Up yn dditectifs. Storïau Sgwâr oedd ein prosiect cyfnod clo yn cysylltu pobl ifanc â hŷn ar eu trothwy eu hunain. Fe wnaethom weithio ar Zoom gyda’r Artist Arweiniol, Cheryl Beer i greu Pecyn Treftadaeth Digidol i ysgolion cynradd Llanelli. Mae Sgwâr Neuadd y Dre yn llawn o storïau o ddewrder, cryfder a gwroldeb, gan ein hatgoffa pa mor rhyfeddol yw ein tref.
Yn ogystal â gweithio gyda Cheryl Beer, fe wnaethom weithio gyda’r arweinyddion lleol, Delyth Jones, Paolo Piana, Stephanie Simms a’n Hartistiaid Ifanc Cyfoed Oska a Copper.
Cefnogwyd Storïau Sgwâr gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Fusion, Cyngor Tref Llanelli a Chyngor Sir Caerfyrddin.
Gwyliwch y fideos ar ein sianel youtube
Hold the Line
Yn ystod y cyfnod clo cyntaf yn 2020, fe wnaethom greu llwyfan i awduron; Dominic Williams, Helen May Williams a Mel Perry i gysylltu â phobl hŷn oedd yn byw yn Sir Gâr.
Roeddem yn gweithio mewn partneriaeth â’r prosiect Cymorth Sir Gâr Unedig, pan gyfeiriwyd tri o bobl hŷn atom ni. Roedd hwn yn brosiect dyrchafol i’r awduron a’r cyfranogwyr ac ym Mai 2021 fe lansiwyd llyfr cyntaf PSU; ‘Hold the line.’ Gallwch ei ddarllen ar-lein ar y ddolen isod.
Carers Speak Up
Yn Ebrill 2021, fe wnaethom lansio prosiect treialu newydd yn Llanelli, Carers Speak Up, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Croesffyrdd Sir Gâr i ofalwyr 18 oed a hŷn.
Roedd yn ymateb i’r ffaith bod gofalwyr yn teimlo eu bod eisiau lle diogel i gysylltu â gofalwyr eraill, teimlo’n llai yn ynysig a chael mewnbwn creadigol.
Stori Gofalu a Rhannu Sir Benfro
Fel rhan o Get Creative fe wnaethom weithio ar y cyd â Straeon Gwaun a Chelfyddydau Gwirfoddol Cymru i redeg cyfres o ddigwyddiadau yn Sir Benfro.
Roedd Stori, Rhannu a Gofalu Sir Benfro yn brosiect celfyddydol cyfranogol yn darparu amrywiaeth o weithgareddau creadigol gan gynnwys chwedleua, barddoniaeth a geiriau llafar. Fe wnaeth y cynllun ar y cyd hwn ein helpu i ymestyn ein gwasanaethau i Sir Benfro. Y nod oedd cysylltu â phobl hŷn ynysig, gofalwyr, y rhai sy’n byw â dementia a phobl hŷn oedd yn profi iechyd meddwl gwael.
Amser Dishgled!
Fe yr oeddem yn dechrau dychwelyd at weithgareddau yn y cnawd, gan weithio gyda Fusion fe wnaethom redeg Amser Dishgled, cyfarfod wythnosol mewn grwpiau bach iawn i ymdrin â phryder ar ôl y cyfnod clo ac ailgyflwyno pobl i’w cymuned.
Dywedodd rhai o’n cyfranogwyr:
‘Mae hyn wedi rhoi cyfle i mi geisio bod gyda phobl eraill mewn grŵp bach, diolch
Lleisiau’r gorllewin Beyond the Border 2021
Trwy adeiladu ar ein partneriaeth gyda Gŵyl Chwedleua Beyond the Border, fe wnaethom drosglwyddo ein rhaglen Sadwrn Llafar i’r ŵyl yn Llandeilo. Yn ystod yr ŵyl fe wnaethom gynnal sesiwn ‘Lleisiau’r Gorllewin’ lle gallai ein cyfranogwyr a’r rhai oedd yn yr ŵyl rannu eu lleisiau a’u storïau eu hunain.
Canolfan ddydd rhithiol
Mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, fe wnaethom greu Canolfan Ddydd Rhithiol ar-lein i bobl hŷn a gyfeiriwyd atom trwy’r bwrdd iechyd lleol a’r timau gweithwyr cymdeithasol. Roedd yn gyfle i gael sgyrsiau a gweithgareddau creadigol i danio’r meddwl gydag aelodau hŷn o’n cymuned sy’n rhan o’r Rhaglen Cysylltu
Gorymdaith Lusernau Nadolig
Yn y cyfnod cyn Gorymdaith Nadolig Llanelli fe wnaethom wahodd cymuned ward Tyisha i ddod i’n cartref yn PSU i greu llusernau ar gyfer yr orymdaith.
Gan ddefnyddio helyg a deunyddiau crefft fel tâp, glud a phapur, fe wnaethom greu llusernau gyda’n gilydd mewn amgylchedd cynnes a hwyliog. Roedd hwn yn amser a lle i blant a theuluoedd ddod at ei gilydd i gael hwyl trwy greadigrwydd.
Ar 17 Rhagfyr, fe wnaeth y teuluoedd wedyn fynd â’u llusernau ar yr orymdaith trwy Barc Heol Ann ac ymuno â’r dathliadau tu allan i’r 4 T ar Heol yr Orsaf o gwmpas y Goeden Nadolig.
Paentio a Dweud
Wedi ei lansio yn 2021, ond fe wnaethom redeg hwn hyd wanwyn 2022, bu Eleanor Shaw a Billy Taylor Beales yn rhedeg sesiwn baentio a chwedleua yn ein cartref yn PSU, Llanelli.