Prosiectau gorffennol - 2020
Yn 2020 roeddem wedi dechrau lansio prosiectau newydd yn gweithio gyda phobl hŷn yn ein cymuned, ond fel yr ydym oll yn gwybod ym Mawrth 2020, newidiodd ein cynlluniau ac fe wnaethom edrych ar ffyrdd newydd o gadw cysylltiad â’r cyfranogwyr, yn neilltuol y rhai oedd yn byw yn unig a’r rhai mwyaf bregus yn ystod y cyfnod hwn.
Caffi Canser
Gan weithio mewn partneriaeth â Chymorth Canser Macmillan fe wnaethom greu’r Caffi Canser - lle creadigol er mwyn i’r rhai oedd wedi profi canser allu dod at ei gilydd a rhannu a mynegi eu teimladau wrth feddwl am eu profiadau a chysylltu ag eraill. Fe wnaethom ohirio’r gweithgaredd hwn ym Mawrth 2020 oherwydd COVID 19.
Storïau ar y Ffôn ac ar y Trothwy
Yn gynnar yn 2020 roeddem newydd lansio ein storïau ar y trothwy newydd, gan gyrraedd pobl hŷn mewn rhannau gwledig o’n cymuned yn Sir Gâr. Roedd hyn mewn partneriaeth â Phrosiect Cymorth Sir Gaerfyrddin Unedig. Ond ym Mawrth 2020 trosglwyddwyd y prosiect hwn i’r ffonau wrth ymateb i COVID 19.
Cynlluniodd PSU y cynllun treialu creadigol hwn i daclo unigrwydd ymhlith pobl hŷn. Cyfeiriwyd pobl at y cynllun Storïau ar y Trothwy gan sefydliadau yn CUSP. Oherwydd i’r cynllun treialu gael canlyniadau da, lansiodd PSU ‘Storïau ar y Ffôn’ yn Ebrill 2020, gan arallgyfeirio’r ddarpariaeth i oresgyn cyfyngiadau’r cyfnod clo. Wrth i’r pandemig barhau, a dwysau’r unigrwydd ymhellach, sicrhaodd PSU gyllid gan Gronfa Sefydlogi Cyngor Celfyddydau Cymru i barhau a datblygu Storïau ar y Ffôn yn annibynnol, fel un o’u hamrywiaeth o brosiectau celfyddydau cymunedol er mwyn iechyd a llesiant.
Prosiect Pontio Cenedlaethau
Yn ogystal ag oedolion a’r rhai bregus oedd yn ynysu roeddem am gefnogi ein pobl ifanc yn ein cymuned hefyd.
Ym mis Ebrill fe wnaethom weithio gyda phobl ifanc mewn ysgolion yn ein cymuned â’u cysylltu â Chartrefi Gofal i greu Prosiect chwedleua oedd yn pontio’r cenedlaethau trwy Zoom a galwadau ffôn.
Cynhaliodd ein hymarferwyr mewnol Karen a Cerys sesiwn chwedleua synhwyraidd gyda phreswylwyr Llys y Bryn a disgyblion o Ysgol Coedcae, Llanelli.
Bu disgyblion o Ysgol Coedcae, Llanelli a Phreswylwyr o Gartref Gofal Cilymaenllwyd yn casglu chwedlau gyda’r chwedleuwr Phil Okwedy, a gefnogwyd gan Ŵyl Chwedleua Ryngwladol Beyond the Border.
Cynhaliodd yr artist gair ar lafar a’r ymgyrchwr, Rufus Mufasa sesiynau creadigol gyda phobl ifanc o Mess Up The Mess, a chreu pecyn sgwrsio a anfonwyd i leoliad Preswyl Tŷ Dyffryn yn Rhydaman.
Fe welwch fwy am y prosiect hwn a’r hyn a grëwyd ar ein sianel Youtube.
Gair ar Lafar a Chelf Tirluniau yng Nghlwb Ieuenctid Bwlch
Yn nes ymlaen yn 2020 fe wnaethom redeg prosiect gydag artisitai a phobl ifanc ym Morfa a Bwlch. Roedd hwn yn gyfle i ymchwilio i storïau traddodiadol o’r ardal, cyfarfod a siarad â phreswylwyr yn Ardal Morfa. Bu pobl leol yn gweithio i greu tirluniau gyda Bill Taylor Beales a chelf ddarlunio gyda Mr Plob, yn ogystal â chofnodi chwedlau gyda’r ymgyrchwr Gair ar Lafar Rufus Mufasa.
To Be In The Now’ Partneriaeth gyda Chyngor Abertawe ac Atgofion Sain
PSU yn gweithio gyda Cheryl Beer sy’n gyfarwyddwr ar radio Atgofion Sain! i greu prosiect stori bywyd addas i dementia yn grymuso pobl hŷn sy’n byw yn Abertawe, gyda’u teuluoedd a’u gofalwyr i wella cyfathrebu cymunedol, gwytnwch a chysylltedd a galluogi pobl hŷn sy’n byw gyda dementia i fod yn rhan o’u datrysiad eu hunain.
Nod y prosiect oedd creu dull gwahanol o gynnwys pobl â dementia a rhannu’n strategol.