Prosiectau gorffennol - 2019
Creu a Dweud
Yn 2019 fe wnaethom redeg prosiect chwedleua creadigol gyda’r darlledwr a’r awdur Cymraeg ei iaith, Alun Gibbard ac Eleanor Shaw, PSU. Roedd y sesiynau’n cyflwyno pobl i’r dull o ddwyn deialog Cymraeg i’w hysgrifennu a chwedleua Saesneg. Roedd hwn yn gwrs unigryw ar y pryd oedd yn rhannu rhai syniadau a sgiliau ymarferol i ddwyn y Gymraeg i chwedleua yn Saesneg.
Chwedleua Cymunedol
Cawsom gomisiwn gan Gyngor Sir Caerfyrddin i greu prosiect casglu chwedlau i gefnogi ein cymuned leol i gael llais.
Fe wnaethom groesawu rhieni, teuluoedd a ffrindiau o gymuned Bigyn a Morfa i gymryd rhan mewn cyfres o sgyrsiau i sôn am sut yr oeddent yn teimlo am eu cymuned. Trafodwyd themâu yn ymwneud â phlentyndod yn Sir Gâr, sut y mae Sir Gâr wedi newid, atgofion a chwedlau, cysylltiad a chymunedau o’r gorffennol hyd heddiw.
Lleisiau Llanelli
Rhedodd PSU, wrth weithio gyda’r curadur Michel Laugharne Perrott raglen chwedleua a chelfyddydau gweledol i bontio’r cenedlaethau yn Llanelli.
Yn haf 2019, cynhaliwyd gweithdai am ddim gyda phobl ifanc a hŷn yn ein cymuned. Roedd y gweithdai yn gymysgedd o gelfyddydau traddodiadol a chreadigrwydd yn ogystal â defnydido rap, gair ar lafar, celf tywod a stryd, gan weithio gyda’r artistiaid Phil Okwedy, Rufus Mufsa, Mandy Lane, Mark Folds, Marc Treanor, Mr Plob a David Pitt. Arddangoswyd y gwaith celf a’r storïau yn Oriel Ffwrnes yn Awst a Medi 2019.
Cefnogwyd y prosiect gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Tref Llanelli, Theatrau Sir Gâr a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Lleisiau Abertawe
Comisiynwyd Lleisiau Abertawe gan adran Byw’n Dda a Heneiddio’n Dda Cyngor Sir a Dinas Abertawe.
Prosiect chwedleua digidol oedd Lleisiau Abertawe i ddod â phobl ifanc a hŷn Abertawe at ei gilydd. Y bwriad oedd creu dealltwriaeth o Dementia ac archwilio problemau yn ymwneud â bod yn ifanc a bod yn hen, dysgu oddi wrth ei gilydd a dathlu’r amseroedd hynny trwy ganfod a dweud ein storïau.
Arweiniwyd rhan gyntaf y prosiect gan y chwedleuwyr David Pitt ac Eleanor Shaw a fu’n gweithio gydag Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt a Chartref Gofal Newton Court ym Mawrth 2019 ar gyfres o weithdai pypedau cysgod i ddatblygu cyfathrebu a chreu ymdeimlad o agosatrwydd.
Arweiniwyd ail ran y prosiect gan y chwedleuwyr Phil Okwedy ac Eleanor Shaw gan weithio gydag Ysgol Gyfun Pontarddulais a Chartref Gofal The Hollies ar gyfres o weithdai hanes bywyd i greu gwell dealltwriaeth o sut y mae’n teimlo i fod yn ifanc ac yn hen.
Llanelli Young People Speak Up – Ymlaen Llanelli
Wedi ei gomisiynu gan Ymlaen Llanelli gofynnwyd i PSU a’i bobl ifanc greu ymateb artistig i Ganol Tref Llanelli a dod â lliw i’r dref.
Bu ein Hartist Celf Gain, Phil Cheater (www.fineartphil.com) yn gweithio gydag Ysgol Gynradd Pentip, Ysgol Gyfun Coedcae a Chlwb Celf Dydd Sadwrn Sir Gâr.
Gall peth o’r gwaith celf gael ei weld o gwmpas canol tref Llanelli o hyd.
Treftadaeth Ddisylw Speak Up
Yn ystod mis Ionawr - Mawrth 2019 fe wnaethom gomisiynu’r bardd Rufus Mufasa i weithio gyda Disgyblion Coedcae oedd yn gweithio ar y Prosiect Treftadaeth Ddisylw gyda Chymdeithas Archeolegol Dyfed.
Prosiect gwirioneddol gyffrous lle’r oedd pobl ifanc yn creu trac sain ac yn perfformio eu gwaith. Gallwch ddal i wrando ar eu creadigaeth yma.