A photo of two people participating in the sensory project led by a facilitator on the left hand side.

Prosiectau gorffennol - 2018

Chwedleua Synhwyraidd

Fe wnaethom redeg prosiect peilot gyda Fusion a Chymunedau’n Gyntaf Llanelli yng Nghanolfan Dydd Cae Maen, Llanelli. Gan weithio gydag oedolion sy’n byw gydag anableddau. Roedd Gemma Alpine yn Hwylusydd Iau gyda PSU a wnaeth raddio ar y cwrs Drama Gymwysedig ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant, Abertawe. Fe wnaeth gefnogi PSU a Chanolfan Dydd Cae Maen i greu profiad croesawus a chyfeillgar, gan ddefnyddio drama a chwedleua i ddwyn pobl at ei gilydd trwy gysylltiad, mynegiant a phrofiadau synhwyraidd.

Marwnad y Selkie

Yn 2018 cefnogodd PSU yr artistiaid Rachel Taylor-Beales, Lucy Rivers a Bill Taylor Beales i gynnal prosiect ymchwil a datblygu yn archwilio chwedleua personol a chwedloniaeth. Ariannwyd y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac fe welodd PSU a’r artistiaid yn gweithio gyda menywod o’n cymuned leol a’r gymuned ehangach. Y canlyniad oedd darn amlgyfrwng wedi ei gynhyrchu gan Eleanor Shaw ac fe’i dangoswyd i gynulleidfa oedd wedi ei gwahodd i PSU.

 

Lleisiau Menywod 


Ym Mawrth 2018 fe wnaethom weithio ar gyfres o weithdai i fenywod, yn archwilio Storïau Selkie a chreu lle i fenywod rannu eu storïau.

Arianwyd y prosiect gan Fusion, Cymunedau yn Gyntaf.
Dolen i bodlediad

Sadwrn Siarad y Gair

Yn 2018 y gwnaethom lansio ein digwyddiadau Sadwrn Siarad y Gair. Yn 2018 fe wnaethom ddechrau cynnal sesiynau misol yn ein cartref yn Ffwrnes Fach, Llanelli, yr Hwb Celfyddyd, Iechyd a Llesiant erbyn hyn. Fe wnaethom wahodd artistiaid gwadd i rannu storïau a cherddoriaeth a hefyd i roi lle i’n cymuned rannu eu llais.

 

Canu a Dweud

Yn dilyn ein prosiect treialu yn 2017, fe wnaethom barhau ein partneriaeth yn gweithio gyda chôr Sing With Us Gofal Canser Tenovus a chreu cyfres o sesiynau chwedleua hunangofiannol gyda’r cyfranogwyr.

Cynhaliwyd perfformiad i ddathlu yng Ngorffennaf 2018 lle gallai cynulleidfaoedd, ffrindiau a theulu’r côr wylio, chwerthin a chrïo wrth wrando ar y storïau a’r caneuon gan Gôr Sing With Us Gofal Canser Tenovus o Lanelli a Chaerfyrddin.

Roedd y digwyddiad yn un emosiynol, cadarnhaol yn rhannu caneuon a storïau o ddewrder, her a goroesi.

Preswyliad Llenyddol Coracle Europe


Cafodd ein Sylfaenydd a’n Prif Weithredwr, Eleanor, y cyfle i fod yn rhan o Breswyliad Llenyddol Coracle Europe yn Sweden a bu’n gweithio gydag awduron a beirdd fel rhan o ŵyl Kultivera yn Tranas. 

Lleisiau Sir Gaerfyrddin

Roedd Lleisiau Sir Gaerfyrddin yn brosiect chwedleua digidol a ffotograffig yn 2018 yn gweithio gyda phobl hŷn yng nghymuned Sir Gâr, yn casglu eu storïau, lleisiau a delweddau ohonynt ar gyfer arddangosfa a gynhaliwyd yn Awst 2018.
Ariannwyd y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Tref Llanelli, Theatrau Sir Gâr a Dementia Friends. 

Caffi Geni

Yng Ngorffennaf 2018, creodd People Speak Up y rhaglen Caffi Geni oedd yn cefnogi menywod a phobl anneuol i gysylltu a rhannu eu storïau geni mewn amgylchedd cefnogol, addfwyn a chreadigol.  Roedd yn creu lle diogel i bobl archwilio emosiynau, llawenydd a thristwch dwfn ac yn gyfle i fyfyrio gydag eraill. Roedd y rhaglen ar gael ar-lein hefyd yn ddiweddarach

Stori, Gofal a Rhannu


Yn hydref 2018 fe wnaethom lansio ein sesiynau Stori, Gofal a Rhannu cyntaf sy’n cael eu cynnal bob pythefnos, fe wahoddwyd oedolion sydd â chyflwr iechyd neu gymdeithasol i ddod i weithdai am ddim yn Ffwrnes Fach i helpu i ddod o hyd i’w llais a’u storïau gan weithio gydag awduron, beirdd, artistiaid gair ar lafar a phobl greadigol broffesiynol.