Prosiectau gorffennol - 2017
Ym Mai 2017 crëwyd People Speak Up gan Eleanor Shaw a’i gefnogi gan Theatrau Sir Gâr a Chyngor Tref Llanelli.
2017 oedd hi pan ddechreuodd PSU dyfu ein Hwb Celfyddyd, Iechyd a Llesiant a dechrau creu lle wrth ymateb i’r hyn oedd ar y gymuned ei angen.
Gŵyl i’r rhai Dros 50
Creodd PSU le i bobl hŷn yn ein cymuned i fod yn rhan o Ŵyl Gwanwyn i rai dros 50.
Mae Gŵyl Gwanwyn yn ŵyl genedlaethol fis o hyd a gynhelir ar draws Cymru ym Mai yn flynyddol i ddathlu creadigrwydd wrth fynd yn hŷn ac a drefnir gan Age Cymru. Yn 2017 fe wnaethom gynnal pedwar gweithdy am ddim fel celfyddyd, creadigrwydd, syrcas, dawns a symud gydag artistiaid proffesiynol. Fe wnaethom greu lle i rai dros 50 lle gallent ddysgu sgiliau newydd a chyfarfod pobl newydd. Dyma hefyd oedd man cychwyn ein grŵp Dros 50 sydd yn awr yn cyfarfod bob dydd Llun yn PSU.
Ein Tref
Yn Awst 2017, fe wnaethom drefnu prosiect celfyddydau gweledol a chwedleua oedd yn pontio’r cenedlaethau, Ein Tref, gan ddwyn pobl hŷn a phobl iau at ei gilydd. Wedi ei hwyluso gan Gillian St John Griffiths ac Eleanor Shaw fe wnaethom wahodd pawb i ddod â storïau, lluniau ac atgofion i greu a chreu darlun gweledol o’u cymuned yn Llanelli a Rhydaman. Ar 1 Medi fe wnaethom rannu eu creadigaethau fel rhan o Arddangosfa yn Llyfrgell Llanelli. Cefnogwyd y prosiect gan Lyfrgelloedd Sir Gâr, Theatrau Sir Gâr a Tesco Bags for help.
Dwedwch Eich Stori
Fe wnaethom dreialu prosiect chwedleua newydd gan weithio gyda Chôr Sing With Us Tenovus Llanelli. Roedd Dwedwch Eich Stori yn grŵp cymunedol agored yn Theatr Ffwrnes, Llanelli a chanolfan dydd Alzheimers yn Rhydaman.
Wedi ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru fe wnaethom archwilio ffyrdd gwahanol o ymchwilio i storïau o’n bywydau oedd angen eu rhannu. Arweiniodd yr hyn a gychwynnodd fel peilot ymlaen at PSU yn edrych ar sut y gallem barhau i gynnig llais i’r rhai sydd eisiau cysylltu trwy gerddoriaeth a chân a sefydlwyd Côr People Sing Up PSU.