Swyddi a Chyfleoedd
Galwad am artistiaid gwadd ar draws Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro
Disciplines we'd love to hear from
Disgyblaethau y byddem wrth ein bodd yn clywed ganddynt:
Chwedleua a Gair ar Lafar Chwedleuwyr, artistiaid gair ar lafar, beirdd sy’n perfformio.
Rhyddiaith a Barddoniaeth
Ysgrifennu creadigol, barddoniaeth, cylchgronau a zines.
Celfyddydau Gweledol a Chyfranogol
Artistiaid gweledol, peintwyr, cyfryngau cymysg a chelfyddydau cymunedol.
Cerddoriaeth a Llais
Canu, rhythm a sain creadigol.
Hwyluso
Hwyluswyr profiadol ar gyfer gwaith grŵp ac un i un.
Ymarfer yn canolbwyntio ar lesiant
Ymarferion sy’n meithrin iechyd meddwl a chysylltiad.
Rydym am glywed gennych chi
Rydym yn awyddus i gyfarfod artistiaid o gymunedau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys y rhai sy’n uniaethu fel mwyafrif byd-eang, cefndir dosbarth gweithiol, menywod, LHDTC, pobl anabl, a phobl â phrofiad o ofal.
Os ydych chi’n gweddu i’r disgrifiad rydym yn eich annog yn neilltuol i gysylltu.
Rydym eisiau clywed gennych - artistiaid sy’n siarad Cymraeg
Ryddem yn hoffi cyfarfod mwy o Artistiaid/Hwyluswyr sy’n siarad Cymraeg yng ngorllewin Cymru
Byddem yn hoffi cyfarfod mwy o Artistiaid sy’n siarad Cymraeg sydd â diddordeb mewn gweithio gyda ni, a diddordeb mewn defnyddio eu creadigrwydd, barddoniaeth, celf weledol, gair ar lafar, ysgrifennu creadigol neu sgiliau tebyg i helpu i gefnogi ein darpariaeth Gymraeg i’n cymuned leol.
Cyflwynwch eich hun
Mae PSU yn gweithio o Lanelli a Chaerfyrddin, ac rydym yn defnyddio’r celfyddydau a chreadigrwydd i helpu i gefnogi iechyd meddwl, llesiant a dwyn cymunedau at ei gilydd. Hoffem glywed gan hwyluswyr ac artistiaid nad ydym, efalali, yn gwybod amdanyn nhw ac sy’n siarad Cymraeg yn neilltuol i gefnogi ein gwaith. Cyflwynwch eich hunain ar y ffrwd hon neu anfon e-bost at
We provide opportunities throughout the year and match facilitators to groups and settings - hub sessions, one-to-one work, care homes and events across West Wales.